Mae dyn 24 oed a gafodd ei arestio wedi i gorff merch yn ei harddegau gael ei ganfod wedi’i lapio mewn cling-ffilm mewn cwpwrdd dillad, wedi cael ei gyhuddo o’i llofruddio.

Mae’n cael ei honni fod Ashley Foster wedi lladd Megan Bills hyd at dair wythnos cyn i’r heddlu ddod o hyd i’w gweddillion mewn ty yn Brierley Hill, West Midlands, fis diwethaf.

Mae Ashley Foster, sydd heb gyfeiriad sefydlog, wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Wolverhampton heddiw, ac wedi pledio’r ddieuog i’r cyhuddiad o lofruddio’r ferch 17 oed rywbryd rhwng Ebrill 13 a 20 eleni.

Mae Ashley Foster wedi pledio’n euog i rwystro’r corff rhag cael ei gladdu’n barchus.

Mae’r Barnwr James Burbidge QC wedi gohirio’r achos tan fis Ionawr y flwyddyn nesaf, pryd y bydd Ashley Foster yn dychwelyd i Lys y Goron Wolverhampton i sefyll ei brawf.