Theresa May (Llun: Dominic Lipinski/PA Wire)
Mae hi’n dal yn bosib y gallai’r Ceidwadwyr a’r DUP ddod i gytundeb i ffurfio llywodraeth, yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol Damian Green.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r blaid Wyddelig rybuddio na ddylai Prif Weinidog Prydain, Theresa May eu cymryd yn ganiataol.

Dywedodd Damian Greeen wrth raglen Today ar Radio 4 ddydd Mercher: “Mae yna bosibilrwydd, a phob posibilrwydd, o hyd o gael cytundeb gyda’r DUP.

“Mae’r trafodaethau wedi’u cynnal mewn modd adeiladol. Yn amlwg, o fod yn ddwy blaid wleidyddol, mae gennym nifer o wahaniaethau, ond mae gennym ni dipyn yn gyffredin.

“Pleidiau unoliaethol ydyn ni’n dwy yn y bôn.”

Safbwyntiau tebyg

Dywedodd fod gan y ddwy blaid safbwyntiau tebyg o ran brawychiaeth, Brexit a ffiniau Iwerddon.

“Mae’r holl drafodaethau o’r math yma’n cymryd amser hyn, ac maen nhw’n parhau,” meddai.

Gobaith y Ceidwadwyr ar ôl etholiad siomedig, lle collon nhw eu mwyafrif, yw sicrhau cytundeb fesul pleidlais gyda’r DUP.

Ond mae’r DUP wedi dweud nad ydyn nhw’n fodlon ar y trafodaethau hyd yn hyn, ac nad oes unrhyw beth yn sicr eto.