Vince Cable
Mae’r cyn-Ysgrifennydd Busnes Syr Vince Cable wedi cyhoeddi ei fod am sefyll i olynu Tim Farron fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe gyhoeddodd Tim Farron wythnos ddiwethaf ei fod yn gadael ei swydd a hynny oherwydd bod gormod o sylw wedi cael ei roi i’w ffydd Gristnogol.

Fe ddychwelodd Syr Vince Cable, 74 oed, i Dy’r Cyffredin fel Aelod Seneddol Twickenham yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin.

Y cyn-weinidog Busnes, Jo Swinson, oedd y ffefryn i gymryd ei le, ond mae hi bellach wedi dweud na fydd hi’n ymgeisio ond y bydd hi’n sefyll i fod yn ddirprwy arweinydd.

Mae’r cyn-weinidog iechyd Norman Lamb hefyd wedi awgrymu ei fod yn ystyried ceisio am yr arweinyddiaeth.

“Cydweithio”

Wrth gyhoeddi ei fod yn ymgeisio am y swydd ar wefan y Democratiaid Rhyddfrydol dywedodd Vince Cable ei fod yn barod i gydweithio gyda phobl o bleidiau eraill er mwyn sicrhau ail refferendwm ar gytundeb Brexit, gyda’r opsiwn i aros yn yr Undeb Ewropeaidd os nad yw’r cytundeb sy’n cael ei gynnig yn ddigon da.

Er gwaetha’r ffaith bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi sicrhau 7.4% o’r bleidlais yn unig a 12 sedd yn yr etholiad cyffredinol, mae Vince Cable yn mynnu bod ’na fwlch mawr mewn gwleidyddiaeth yng ngwledydd Prydain ar hyn bryd a’i fod yn benderfynol o lenwi’r bwlch.

Roedd Vince Cable wedi bod yn arweinydd dros dro yn 2007 yn dilyn ymddiswyddiad Syr Menzies Campbell ond fe wrthododd sefyll am yr arweinyddiaeth gan ddweud na fyddai ymgeisydd hŷn yn cael ei ethol.

Petai’n cael ei ethol, fe fyddai arweinydd hynaf y blaid ac arweinydd hynaf un o’r prif bleidiau ers Syr  Winston Churchill, a oedd yn 80 oed pan gamodd o’i swydd fel arweinydd y Ceidwadwyr.