Llun: PA
Bydd yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis yn cyfarfod ag aelodau Llywodraeth Sbaen yn dilyn diwrnod cyntaf trafodaethau Brexit ym Mrwsel ddoe.

Daw’r cyfarfod fel ymgais gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gryfhau cysylltiadau â gwledydd Ewrop, a bydd dyfodol Gibraltar ymhlith y pynciau trafod.

Yn ystod y trafodaethau ddydd Llun, bu’n rhaid i Lywodraeth Prydain gyfaddawdu a derbyn amserlen Ewropeaidd ar gyfer y trafodaethau.

Mae hyn yn golygu na fydd trafodaethau am gytundeb masnach newydd yn cael eu cynnal law yn llaw â thrafodaethau Brexit.

Yn dilyn y trafodaethau â phrif ymgynghorydd y Comisiwn Ewropeaidd, Michele Barnier, cytunodd  y ddwy ochr y byddai hawliau dinasyddion, ffin Gogledd Iwerddon a chost Brexit ymysg y pynciau fydd yn cael eu trafod yn gyntaf.

Pan fydd y trafodaethau yma wedi “datblygu’n ddigonol,” dywedodd Michele Barnier y byddai modd dechrau ail gyfnod y trafodaethau lle fyddai perthynas masnach newydd yn cael ei hystyried.