Llun: PA
Fe fydd yr Ysgrifennydd Brexit, David Davis, yn galw am “gytundeb unigryw” wrth i drafodaethau Brexit ddechrau’n swyddogol ym Mrwsel heddiw.

Ffocws y trafodaethau gyda Phrif Drafodwr y Comisiwn Ewropeaidd, Michel Barnier, fydd statws dinasyddion Ewropeaidd a Phrydeinig, ffin Gogledd Iwerddon a chost Brexit.

Mae disgwyl i David Davis ddweud: “Er bod llwybr hir o’n blaenau, mae’r bwriad yn glir – sefydlu partneriaeth arbennig rhwng y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Cytundeb unigryw, gwahanol i unrhyw gytundeb hanesyddol.”

Mae swyddogion o Brydain yn mynnu y bydd y Deyrnas Unedig yn parhau i geisio sefydlu cytundeb masnach newydd ynghyd a’r telerau o dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Er bod y Prif Weinidog, Theresa May, wedi nodi byddai dim cytundeb yn well na chytundeb gwael, dywedodd y Canghellor, Philip Hammond, dros y penwythnos y byddai methu a sefydlu cytundeb yn “wael dros ben.”