Arlene Foster (Llun: PA)
Mae arweinyddiaeth Arlene Foster o’r DUP yn peryglu dyfodol y broses heddwch yn Iwerddon, yn ôl Sinn Fein.

Dywedodd cadeirydd y blaid, Declan Kearney fod uchelgais y DUP i sicrhau bod Arlene Foster yn cryfhau ei grym yn Stormont yn “gynamserol”.

Ychwanegodd fod sawl sgandal yn gysgod tros ei harweinyddiaeth ac mai “dyna pam y gwnaeth Sinn Fein symud arweinydd y DUP o’i swydd fis Ionawr diwethaf”.

Dywedodd na ddylid trafod arweinyddiaeth Arlene Foster tan bod sefydlogrwydd o ran adfer hyder y cyhoedd a bod prosesau cywir wedi cael eu dilyn er mwyn sicrhau bod cytundeb yn bosibl.

Dywedodd Arlene Foster ddydd Gwener ei bod hi’n hyderus fod cytundeb yn bosibl erbyn Mehefin 29, y dyddiad cau.

‘Paradwys ffôl’

Ychwanegodd Declan Kearney fod y DUP yn byw mewn “paradwys ffôl” os ydyn nhw’n credu bod modd parhau heb sicrhau sefydlogrwydd heb hawliau a chydraddoldeb.

Dywedodd fod safbwynt ei blaid yn hynny o beth yn “ddiwyro”, a bod methu â derbyn hynny’n mynd i arwain at “ddyfodol gydag ansefydlogrwydd gwleidyddol parhaol”.

Does dim gweithgor yn Stormont ers mis Mawrth, a dim Prif Weinidog na Dirprwy Brif Weinidog ers mis Ionawr ar ôl i Sinn Fein ddirwyn y senedd i ben yn dilyn ffrae â’r DUP.

Mae’r berthynas wedi gwaethygu ers y cyhoeddiad y byddai’r DUP yn cefnogi’r Ceidwadwyr yn Llywodraeth Prydain yn San Steffan.