Hesham Rahman, un o'r rhai sydd ar goll o hyd (Llun: Karim Mussilhy/PA Wire)
Mae o leiaf 70 o bobol yn dal ar goll ar ôl y tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain.

Mae plant a theuluoedd cyfan yn eu plith, yn ôl Heddlu Llundain.

Mohammad Alhajali, ffoadur 23 oed o Syria, oedd y person cyntaf i gael ei enwi.

Mae Aelod Seneddol Tottenham, David Lammy hefyd wedi cadarnhau bod yr artist lleol, Khadija Saye, 24, wedi marw.

Mae lle i gredu bod oedrannau’r rhai sydd ar goll yn amrywio o chwe mis oed i 84 oed.