Byddai diffyg cytundeb Brexit yn “beth drwg iawn, iawn” i wledydd Prydain, yn ôl Canghellor San Steffan, Philip Hammond.

Bydd y trafodaethau ffurfiol i ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn dechrau ym Mrwsel fore Llun.

Ac mae Philip Hammond wedi dweud bod angen gwneud trefniadau er mwyn osgoi bod “ar ymyl y dibyn”, gan awgrymu y gallai mesurau dros dro gael eu cyflwyno am ychydig flynyddoedd.

Ysgrifennydd Brexit, David Davis fydd yn arwain y trafodaethau ar ran Llywodraeth Prydain, ac fe fydd e’n cyfarfod â Michel Barnier, sy’n cynrychioli’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Prif Weinidog, Theresa May wedi dweud y byddai Llywodraeth Prydain yn barod i gefnu ar y trafodaethau, gan ddweud bod dim cytundeb yn well na chytundeb gwael.

Trefniadau dros dro

Dywedodd y Canghellor Philip Hammond wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Efallai na fydd yr hyn ry’n ni’n ei weithredu’n drefniant unigol a fydd yn para am byth, fe allai fod yn drefniant sy’n para ychydig flynyddoedd fel mesur dros dro cyn i ni gyrraedd y status quo tymor hir sy’n cael ei gytuno.

“Ry’n ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd ac oherwydd ry’n ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, byddwn ni’n gadael y farchnad sengl a gyda llaw, byddwn ni’n gadael yr undeb gyllid.

“Nid a fyddwn ni’n gadael yr undeb gyllid yw’r cwestiwn. Y cwestiwn yw beth fyddwn ni’n ei weithredu er mwyn cyflawni’r amcanion a gafodd eu hamlinellu gan y Prif Weinidog yn ei haraith yn Nhŷ Lancaster o beidio â chael ffin galed yn Iwerddon a galluogi nwyddau Prydeinig i fynd yn ôl ac ymlaen ar draws y ffin gyda’r Undeb Ewropeaidd?

“Mae’n ddatganiad o synnwyr cyffredin os ydyn ni am gael newid radical yn y ffordd ry’n ni’n cydweithio, fod angen i ni gyrraedd yno drwy fynd ar lethr, nid ar ymyl y dibyn.”

Ychwanegodd na fyddai’n derbyn cytundeb a fyddai’n “dinistrio” Prydain.