Tân yn Llundain (Llun: Wikipedia)
Fe ddaeth i’r amlwg fod y gorchudd a gafodd ei ddefnyddio wrth godi Tŵr Grenfell yn Llundain yn anghyfreithlon, yn ôl Canghellor San Steffan, Philip Hammond.

Fe fydd ymchwiliad troseddol ac ymchwiliad cyhoeddus i’r tân a laddodd 58 o bobol yn penderfynu a gafodd rheolau adeiladu eu torri.

Dywedodd y Canghellor wrth raglen Andrew Marr y BBC fod y gorchudd hefyd wedi’i wahardd yn Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau.

Mae Cyngor Kensington a Chelsea wedi cael ei feirniadu am ei ymateb i’r digwyddiad.

Mae gwirfoddolwr, Nisha Parti wedi honni bod goroeswyr wedi derbyn £10 y dydd gan y cyngor ac nad oes modd iddyn nhw gael mynediad i roddion gan y cyhoedd.

Gwasanaeth eglwysig

Mae Maer Llundain, Sadiq Khan wedi bod mewn gwasanaeth eglwysig heddiw i gofio’r rhai a gafodd eu lladd yn y tân.

Roedd e eisoes wedi dweud y gallai’r tŵr gael ei ddymchwel yn gyfangwbl ar ôl y tân.

Mae Aelod Seneddol Tottenham, David Lammy wedi galw ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May a Heddlu Llundain i ymchwilio i’r holl ddogfennau’n ymwneud â’r adeilad, yn dilyn adroddiadau bod rhai ffeithiau wedi cael eu celu.

Mae’r awdurdodau wedi rhybuddio y gallai nifer y meirw gynyddu eto, gyda nifer o bobol mewn cyflwr difrifol o yd.

Hwn yw’r tân gwaethaf yn Llundain ers yr Ail Ryfel Byd.

Gwrthddweud honiadau

Er gwaethaf sylwadau Philip Hammond am y gorchudd ar yr adeilad, mae’r cwmni sy’n ei gynhyrchu wedi dweud nad yw e wedi’i wahardd yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd llefarydd ar ran CEP Architectural Facades fod hawl i’w ddefnyddio mewn adeiladau uchel ac isel.

Ond fe ddywedodd fod cwestiynau i’w hateb am strwythur yr adeilad ac am reoliadau tân a iechyd a diogelwch.