(Llun: NSPCC)
Mae’r NSPCC wedi galw am gyflwyno deddfau newydd i amddiffyn plant sy’n agored i gael eu camdrin a’u bwlio ar wefannau cymdeithasol.

Yn ôl yr elusen, dydy gwefannau cymdeithasol fel Facebook a Twitter ddim yn gwneud digon i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol.

Maen nhw’n galw am gosbi gwefannau cymdeithasol sy’n anwybyddu’r broblem neu sydd ddim yn gwneud digon i amddiffyn plant.

Daw’r alwad yn fuan ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May alw ar wefannau cymdeithasol i fonitro cynnwys brawychol neu eithafol yn dilyn yr ymosodiad ym Manceinion.

Llyfr rheolau

Mae’r NSPCC wedi creu “llyfr rheolau” tri cham ac maen nhw’n galw ar reoleiddwyr annibynnol i’w weithredu.

Byddai’r rheolau newydd yn cynnwys gosodiadau diogelwch o’r mwyaf i bobol dan 18 oed, hysbysiadau bwlio i bobol ifanc sy’n cael eu targedu a goruchwylwyr diogelwch plant i gael eu cyflogi gan yr holl wefannau cymdeithasol.

Dywedodd prif weithredwr yr NSPCC, Peter Wanless na ellir gadael i wefannau cymdeithasol reoli’r sefyllfa ar eu pennau eu hunain, gan ychwanegu mai “digon yw digon”.

“Rhaid i ni gyflwyno safonau diogelwch byd-eang y gellir gweithredu arnyn nhw’n gyfreithiol ac sy’n cael eu cynnwys o’r dechrau.

“Ry’n ni wedi gweld droeon fod gwefannau cymdeithasol yn gadael i gynnwys treisgar, ymosodol neu anghyfreithlon gael ymddangos heb gael ei wirio ar eu safleoedd, ac yn yr achosion gwaethaf, mae plant wedi marw ar ôl cael eu targedu gan ysglyfaethwyr neu ar ôl gweld ffilmiau hunan-niweidio ar-lein.”

Ymchwil

Yn ôl ymchwil gan yr NSPCC ac O2, mae pedwar allan o bob pump o blant yn teimlo nad yw gwefannau cymdeithasol yn gwneud digon i’w hamddiffyn nhw rhag pornograffi, bwlio a chasineb.

Y llynedd, roedd 12,248 o sesiynau ChildLine yn ymwneud â diogelwch a chamdrin ar y we – roedd 5,103 ohonyn nhw’n ymwneud â bwlio ar y we, sy’n gynnydd o 12% ers y flwyddyn gynt.

Roedd 2,123 o’r sesiynau’n ymwneud ag ecsbloetio plant yn rhywiol ar y we – sy’n gynnydd o 44% ers y flwyddyn gynt.