Protestwyr yn ymateb i'r tân (Llun: PA)
Mae goroeswyr y tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain wedi derbyn £10 yn unig gan y cyngor lleol yn Kensington, yn ôl gwirfoddolwr.

Dywedodd y cynhyrchydd ffilmiau Nisha Parti fod yr arian yn mynd tuag at westai ar ôl i’r tân ledu trwy’r bloc o fflatiau ddydd Mercher.

Dydy trigolion lleol ddim yn gallu cael mynediad i arian, meddai Nisha Parti, er i Brif Weinidog Prydain, Theresa May addo neilltuo £5 miliwn yn dilyn y trychineb.

‘Neb yn dweud ble mae’r arian’

Dywedodd Nisha Parti wrth raglen Peston on Sunday ar ITV nad yw trigolion lleol yn gallu cael mynediad i’r arian gan nad yw’r llywodraeth yn dweud wrthyn nhw ble mae’r arian.

“Roedd dioddefwyr yn mynd i westai, yn cyrraedd gwestai, heb unrhyw un o’r cyngor i’w cyfarch nhw, i’w cofrestru nhw, i roi dillad a bwyd iddyn nhw.

“Mae gwirfoddolwyr bellach yn mynd i westai gyda phecynnau bwyd ac arian maen nhw’n ceisio dod o hyd iddo oherwydd does ganddyn nhw ddim byd.”