Canghellor San Steffan, Philip Hammond (Llun: PA)
Doedd y Ceidwadwyr ddim wedi rhoi digon o bwyslais ar eu record economaidd yn ystod yr ymgyrch etholiadol, yn ôl y Canghellor Philip Hammond.

Mae’r Canghellor wedi bod yn feirniadol o’r ffordd y cafodd ymgyrch y Ceidwadwyr ei threfnu, ond dydy e ddim wedi dweud am ba hyd y mae e’n disgwyl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May barhau yn ei swydd.

Dywedodd y byddai’r blaid wedi “gwneud yn well, fwy na thebyg” pe baen nhw wedi canolbwyntio ar eu record economaidd ers iddyn nhw ddod i rym.

Cyfaddefodd Philip Hammond nad oedd e wedi chwarae digon o ran yn ymgyrch y Ceidwadwyr.

‘Record ardderchog’

Dywedodd Philip Hammond wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Dw i ddim yn mynd i ailadrodd y sgyrsiau preifat ges i gyda Theresa May ddydd Gwener.

“Ydy, mae’n wir nad oedd fy swyddogaeth yn yr ymgyrch etholiadol yr hyn ro’n i am iddi fod.

“Fe wnes i dipyn o deithio o amgylch y wlad. Fe wnes i gyfarfod â llawer o bobol ddiddorol iawn, fe glywais i lawer o straeon diddorol.

“Byddwn i wedi hoffi rhoi mwy o sylw i’n record economaidd ni, a dw i’n credu ei bod yn ardderchog, wrth i ni greu 2.9 miliwn o swyddi newydd, a thorri’r diffyg gan dri chwarter.”

Trefnwyr yr ymgyrch

Er ei fod e’n anhapus, doedd Philip Hammond ddim yn fodlon beirniadu ymgynghorwyr Theresa May yn gyhoeddus.

Ymddiswyddodd Nick Timothy a Fiona Hill o ganlyniad i’r ymgyrch siomedig.

Ychwanegodd Philip Hammond: “Dw i ddim yn mynd i fyfyrio ar yr hyn ddigwyddodd y tu fewn i dîm arweinwyr yr ymgyrch.

“Y canlyniad yn y pen draw, yn fy marn i, oedd nad oedden ni wedi siarad cymaint am yr economi ag y dylen ni fod wedi’i wneud.

“Wnaethon ni ddim ymdrechu digon i dynnu cynigion economaidd a chynlluniau gwario Jeremy Corbyn yn ddarnau, a byddai’r rheiny wedi bod yn ddinistriol i’r wlad, a byddwn ni’n gwneud hynny nawr.”

Dywedodd fod rhaid i’r Llywodraeth “fwrw ati gyda’u gwaith”.