Rali Twr Grenfell yn Glasgow (Llun: PA)
Mae cannoedd o bobol wedi dod ynghyd yn Glasgow i ddangos eu cefnogaeth i’r gymuned sydd wedi’i heffeithio gan drychineb tân Twr Grenfell yn Llundain.

Mewn digwyddiad a gafodd ei drefnu yn Stryd Buchanan, roedd baneri’n dweud “Mae Glasgow yn sefyll ysgwydd ag ysgwydd gyda chi”.

Fe fu nifer o siaradwyr yn annerch y dorf o thua 200 o bobol, yn cynnwys y cyfreithiwr hawliau dynol, Aamer Anwar, a alwodd am “y gwirionedd, cyfrifoldeb a chyfiawnder”.

“Dw i’n galw ar i bobol gael eu harestio a’u dwyn gerbron eu gwell,” meddai. “Ac os ydi’r bobol hynny’n cael eu canfod yn euog, fe ddylen nhw gael eu carcharu am lofruddiaeth.”

Trefnydd y digwyddiad yn Glasgow oedd Sean Bailey, sy’n gweithio i undeb y tenantiaid, Living Rent.