Mae dau ddyn wedi’u cludo i’r ysbyty wedi i gyfanswm o 16 o bobol – i gyd yn ddinasyddion Irac – gael eu canfod yng nghefn lori mewn gwres llethol.

Fe gafodd y lori ei rhwystro ar briffordd yr A22 yn East Grinstead, Gorllewin Sussex, tua 9.20yb ddydd Sadwrn, a hynny wedi i rai o’r teithwyr godi llaw ar yrwyr.

Fe ddaeth y gwasanaethau brys i achub yr 13 dyn, y ddwy ddynes a’r un plentyn o gefn y lori HGV. Fe gafodd dau o’r dynion eu cludo i’r ysbyty.

Mae’r lleill wedi cael dwr i’w yfed ac wedi cael eu harchwilio’n feddygol. Fe gafodd eglwys leol ei defnyddio fel lloches nes y cyrhaeddodd swyddogion mewnfudo.