Theresa May
Fe fydd Prif Weinidog Prydain yn cyfarfod dioddefwyr ac arweinwyr cymunedol Twr Grenfell – ac fe fydd y cyfarfyddiad yn digwydd yn Stryd Downing heddiw.

Fe ddaw wedi i Theresa May gael ei beirniadu’n hallt am osgoi dod wyneb yn wyneb â phobol gyffredin wrth ymweld â safle’r tân yn Kensington.

“Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn cadeirio cyfarfod aml-bleidiol fore Sadwrn, er mwyn gwneud yn siwr fod popeth posib yn cael ei wneud er mwyn cefnogi’r rheiny sydd wedi’u heffeithio gan y trasiedi,” meddai llefarydd ar ran Stryd Downing.

“Y pnawn yma, fe fydd yn cyfarfod grwp o drigolion, dioddefwyr, gwirfoddolwyr ac arweinwyr cymunedol yn Rhif 10.”

Fe ddaeth cadarnhad gan y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr fod 19 o bobol yn cael eu trin mewn ysbytai, a bod deg o’r rheiny mewn cyflwr difrifol iawn.