Mae heddlu yng ngogledd orllewin Lloegr wedi dechrau ymchwiliad i lofruddiaeth, wedi i ferch yn ei harddegau gael ei chanfod yn farw mewn parc yn dilyn “ymosodiad ciadd”.

Roedd teulu’r ferch 18 oed wedi adrodd wrth yr heddlu ei bod hi ar goll toc wedi 7yh nos Wener, wedi iddi fethu â dychwelyd adref o’r coleg.

Yn ôl ei ffrindiau, fe’i gwelwyd hi am y tro diwethaf ger argae Wigan. Fe aeth heddlu Greater Manchester ati i chwilio’r ardal, a dod o hyd i gorff am 2.30yb ym Mharc Dwr Orrell.

“Mae ganddon ni dîm cyfan o heddweision yn gweithio ar yr achos,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu, “er mwyn canfod sut yn union y bu’r ferch farw. Rydan ni’n benderfynol o ddod o hyd i bwy bynnag wnaeth hyn.”