Mae’r chwilio’n parhau am bobol sydd ar goll yn Nhŵr Grenfell ar ôl i bennaeth yr heddlu awgrymu bod gobaith na fydd nifer y meirw yn cyrraedd y cannoedd.

Mae dwsinau o bobol ar goll ers i’r tŵr yn ardal fwyaf cyfoethog Prydain, Kensington fynd yn wenfflam, gyda’r heddlu’n poeni na fydd modd adnabod rhai o’r dioddefwyr yn sgil maint y tân.

Mae chwe chorff wedi cael eu tynnu o’r tŵr 24 llawr, tra bod 11 wedi cael eu darganfod y tu fewn, ond does dim modd eu tynnu o na ar hyn o bryd.

Yn y cyfamser, daeth cyhoeddiad y bydd ymchwiliad troseddol i achos y tân, yn ogystal ag ymchwiliad cyhoeddus.

Mae’r heddlu serch hynny yn pwysleisio nad yw hynny’n golygu bod trosedd yn sicr wedi digwydd.

Yn ôl arbenigwyr, gallai systemau taenu dŵr [sprinklers] fod wedi cael eu ffitio yn yr adeilad am £200,000 ond yn ôl Nick Paget-Brown, sy’n arweinydd dros Gyngor Ceidwadol Kensington a Chelsea, doedd trigolion y tŵr ddim i gyd o blaid hyn.

Ffoadur o Syria ymhlith y meirw

Mohammed Alhajali, oedd yn ffoadur 23 oed o Syria, yw un o’r dioddefwyr cyntaf i’w cael eu henwi, gydag y grŵp Syria Solitary Campaign, yn lansio ymgyrch tuag at gostau ei angladd.

Wrth ymateb i’r dyfalu y gallai nifer y meirw fod dros 100, dywedodd pennaeth yr Heddlu Metropolitan, Stuart Cundy, “dw i wir yn gobeithio ddim.”

“I’r sawl un ohonom sydd wedi bod lawr yno, mae’n emosiynol, felly dw i’n gobeithio nad yw’n cyrraedd y cannoedd, ond dw i’n methu cael fy nhynnu at niferoedd,” meddai, gyda’i lais yn cracio.

Ychwanegodd y gallai chwilio’r holl adeilad gymryd wythnosau os nad misoedd.

Bydd rali’n cael ei gynnal heno yn San Steffan yn galw am gyfiawnder dros y rhai sydd wedi’u heffeithio gan y tân.

Mae dros £1 miliwn wedi cael ei godi i helpu trigolion Tŵr Grenfell , gyda mosg lleol yn casglu dros 60 o dunelli o roddion.