Mae dau ddyn arall wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad ag achos o drywanu mewn garej betrol yng nghanolbarth Lloegr.

Fe ddaethpwyd o hyd i Mark Nesmith wedi’i anafu’n ddifrifol ym maes parcio gorsaf betrol BP yn The Butts, Coventry yn ystod oriau mân dydd Sul, Mehefin 11.

Fe gafodd y dyn 35 oed ei gludo i’r ysbyty, ond bu farw yno y diwrnod canlynol.

Mae ditectifs Heddlu Swydd Warwick wedi cyhuddo Uzair Hussain, 24, a Sebastian Vastaki-Barsby, 18,  o lofruddio, wedi iddyn nhw gael eu harestio yn eu cartrefi fore Mercher.

Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron llys yn ddiweddarach heddiw.

Mae trydydd dyn, Tyler Smith, hefyd wedi’i gyhuddo o lofruddio, ac mae eisoes wedi ymddangos gerbron ynadon.