O holl ranbarthau’r Deyrnas Unedig, Cymru welodd y cynnydd mwyaf yn y gyfradd ddiweithdra rhwng Chwefror ac Ebrill eleni, o gymharu â’r tri mis blaenorol.

Cynyddodd y gyfradd diweithdra gan 0.4% yng Nghymru gan guro Llundain a Gorllewin Canolbarth Lloegr -ardaloedd ddaeth yn gydradd ail â 0.3% o gynnydd.

Yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau mae cyfradd diweithdra Cymru bellach yn 4.8% – sydd yn uwch na chyfradd y Deyrnas Unedig o 4.6%.

Mae 73,000 yn ddi-waith yng Nghymru sydd mil yn fwy na’r un cyfnod y llynedd, a 7,000 yn fwy nag rhwng Tachwedd ac Ionawr.

Hefyd mae 72.9% o bobol yng Nghymru wedi eu cyflogi sydd yn is na’r cyfartaledd Prydeinig o 74.8%.