Enda Kenny
Mae Prif Weinidog Gweriniaeth Iwerddon, Enda Kenny, wedi cadarnhau ei benderfyniad hir-ddisgwyliedig i gamu o’i swydd.
Mae wedi bod yn Taoiseach ers 2011.
Dywedodd: “Nid yw hyn erioed wedi bod amdana’i ond y problemau a’r heriau mae pobl ein gwlad yn ei wynebu.”
Fe gyhoeddodd Enda Kenny y byddai’n ymddeol ym mis Mai ar ôl 15 mlynedd yn arwain ei blaid, Fine Gael, a dau gyfnod yn Taoiseach.
Leo Varadkar, 38 oed o Ddulyn, sydd wedi cael ei ethol i arwain y blaid a’r disgwyl yw mai ef fydd y Taoiseach newydd.
Cyn iddo adael ei swydd heddiw bu Enda Kenny yn cynnal cyfarfod o’r cabinet yn adeiladau’r Llywodraeth yn Nulyn cyn annerch Senedd Iwerddon, y Dail am y tro olaf.
Fe fydd yn cwrdd â’r Arlywydd Michael D Higgins yn Aras an Uachtarain yn ddiweddarach i drafod ei ymddiswyddiad.