Heddlu Llundain ger London Bridge wedi'r ymosodiad brawychol, Llun: PA
Mae cwestau i farwolaethau pump o’r rhai fu farw yn ystod ymosodiad yn Llundain ar Fehefin 3, wedi’u hagor a’u gohirio.

Yn ystod yr ymosodiad cafodd fan ei yrru at gerddwyr yn ardal London Bridge cyn i dri ymosodwr brawychol drywanu pobol, gan ladd wyth.

Clywodd Llys y Crwner Southwark bod y dioddefwyr wedi cael eu trywanu yn y gwddf, cefn a’r frest yn ystod yr ymosodiad.

Clywodd mam y gofalwr plant o Awstralia, Sara Zelenak, sut wnaeth ei merch 21 oed farw ar ôl cael ei thrywanu yn ei gwddf.

Bu farw James McMullan, 32, o Lundain wedi iddo gael ei drywanu yn ei frest yn Borough High Street, a chafodd y cogydd Sebastien Belanger, 36, a oedd yn dod o Ffrainc yn wreiddiol, ei ladd wrth yfed mewn bwyty.

Cafodd y nyrs Kirsty Boden, 28, o Awstralia ei lladd wrth iddi geisio helpu pobol eraill, a chafodd y Sbaenwr Ignacio Echeverria, 39, ei drywanu wrth geisio amddiffyn dynes.

Cafodd y cwestau eu gohirio nes bod ymchwiliad yr heddlu wedi’i gwblhau.

Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal ddydd Mercher a fydd yn ymdrin â marwolaethau tri unigolyn arall – Christine Archibald, 30, o Ganada, Xavier Thomas, 45, o Ffrainc, ac Alexandre Pigeard, 26, fu farw yn ystod yr ymosodiad ar ddechrau’r mis.