Mae cost gwyliau dramor wedi cynyddu Llun: PA
Roedd chwyddiant ar ei lefel uchaf ers bron i bedair blynedd ym mis Mai, wrth i’r cynnydd yn y gost am wyliau dramor a gemau cyfrifiadurol gynyddu costau byw.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bod y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) sy’n mesur chwyddiant wedi cyrraedd 2.9% fis diwethaf, o’i gymharu â 2.7% ym mis Ebrill.

Roedd economegwyr wedi darogan y byddai’n aros yn 2.7%.

Dyma’r lefel uchaf ers mis Mehefin 2013 pan oedd CPI wedi cyrraedd 2.9%.

Mae’r cynnydd mewn costau byw yn parhau’n uwch na tharged Banc Lloegr o 2% ac yn debygol o roi pwysau ar Bwyllgor Polisi Ariannol (MPC) y Banc i ystyried codi cyfraddau llog y tu hwnt i 0.25% pan fydd yn cwrdd yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Mae’r gost o deithio dramor wedi cynyddu ers i werth y bunt ostwng yn sgil y bleidlais Brexit.

Roedd y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) sy’n fesur ar wahân ar gyfer chwyddiant, ac sy’n cynnwys y dreth gyngor a thaliadau llog morgeisi, wedi cyrraedd 3.7% fis diwethaf, o 3.5% ym mis Ebrill.