Llun: PA
Mae adroddiadau fod trafodaethau cudd yn cael eu cynnal rhwng Gweinidogion y Cabinet ag Aelodau Seneddol Llafur.

Daw hyn wrth i’r pwysau gynyddu ar Theresa May i ystyried safbwyntiau’r gwrthbleidiau ar Brexit wedi iddi golli ei mwyafrif yn yr Etholiad Cyffredinol.

Un sydd wedi awgrymu hyn ydy Arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Ruth Davidson, a ddywedodd na fydd hwn yn “Brexit i’r Ceidwadwyr yn unig.”

Trafodaethau Brexit

Fe wnaeth Theresa May gynnal cyfarfod ag ASau Ceidwadol ddoe, ac wedi’r cyfarfod dywedodd Ruth Davidson: “mae’n rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn gwahodd pobol i mewn yn awr. Nid yw hyn yn mynd i fod yn Brexit Ceidwadol yn unig, mae’n rhaid iddo gynnwys yr holl wlad.

“Gallwn wneud bargen fawr a phendant sy’n dod â’r wlad gyda ni, sy’n dod â phobol i mewn o ochr arall Tŷ’r Cyffredin a hefyd pobol o’r tu allan,” meddai.

Yn ogystal mae’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis, wedi awgrymu y gallai’r trafodaethau swyddogol i adael yr Undeb Ewropeaidd ddechrau’n hwyrach na Mehefin 19.

Yn y cyfamser, mae un o gynghreiriaid Jeremy Corbyn wedi ymateb gan ddweud – “nid ni yw e a dydyn ni ddim yn defnyddio’r termau Brexit caled na meddal.”