Salman Abedi (Llun: PA)
Does neb yn y ddalfa erbyn hyn ar ôl yr ymosodiad brawychol ym Manceinion ar Fai 22.

Dywedodd Heddlu Manceinion fod pawb oedd wedi cael eu cadw yn y ddalfa bellach wedi’u rhyddhau, ac maen nhw’n credu bod Salman Abedi wedi gweithredu ar ei ben ei hun.

Cafodd 22 o bobol eu lladd yn y digwyddiad, a 200 eu hanafu.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi lluniau o Salman Abedi, car Nissan Micra gwyn a chasgen oedd y tu fewn i’r car.

Teulu Salman Abedi

Mae brawd Salman Abedi, Hashim a’u tad Ramadan yn y ddalfa yn Libya.

Mae lle i gredu bod Hashim wedi dweud wrth yr awdurdodau ei fod e’n gwybod am gynllwyn ei frawd, a’i fod e wedi cael ei radicaleiddio’n 22 oed tra ei fod e’n byw yng ngwledydd Prydain ddwy flynedd yn ôl.

Prynodd Salman Abedi gar ar Ebrill 13 cyn gadael gwledydd Prydain ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, ac mae lle i gredu bod cydrannau y tu fewn i’r car er mwyn adeiladu bom.

Yr ymchwiliad

Cafodd 29 eiddo eu harchwilio a 22 o bobol eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad, ac mae pawb wedi’u rhyddhau’n ddi-gyhuddiad erbyn hyn.

Mae lle i gredu bod nifer o bobol wedi ymddwyn yn amheus cyn yr ymosodiad, ac roedd Salman Abedi wedi ceisio trosglwyddo arian allan o wledydd Prydain cyn yr ymosodiad.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.