Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi dechrau penodi ei chabinet ar ôl ennill yr etholiad cyffredinol ddydd Iau.

Mae cryn ddyfalu ynghylch pwy fydd yn cael cadw eu swyddi, pwy fydd y newydd ddyfodiaid, a phwy fydd yn talu’r pris am etholiad cyffredinol siomedig.

Mae tri Aelod Seneddol o Gymru yn y Cabinet ar hyn o bryd – Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns, ei ddirprwy Guto Bebb a’r Gweinidog Brexit David Jones.

Y cabinet newydd

  • Daeth cadarnhad eisoes y bydd y Canghellor Philip Hammond, yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson, yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon a’r Ysgrifennydd Brexit David Davis yn cadw eu swyddi.
  • Mae’r cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phenisynau, Damian Green, sy’n enedigol o’r Barri, wedi cael ei benodi’n Brif Ysgrifenydd Gwladol – sy’n gyfystyr â bod yn Ddirprwy Brif Weinidog – ac yn Weinidog yn y Swyddfa Gabinet.
  • David Gauke yw’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau newydd, ar ôl bod yn ddirprwy i Philip Hammond yn y Trysorlys.
  • Mae Greg Clark wedi cael cadw ei swydd yn Ysgrifennydd Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.
  • Mae Liz Truss, oedd yn Ysgrifennydd Cyfiawnder, wedi’i phenodi’n Brif Ysgrifennydd y Trysorlys.
  • Mae Dr Liam Fox wedi cael cadw ei swydd yn Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol.
  • Justine Greening yw’r Ysgrifennydd Addysg o hyd. Bydd hi hefyd â chyfrifoldeb am Fenywod a Chydraddoldeb o hyd.
  • Mae Sajid Javid wedi cael cadw ei swydd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Llywodraeth Leol.
  • Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, David Lidington sydd wedi cael ei benodi’n Arglwydd Ganghellor ac yn Ysgrifennydd Cyfiawnder.
  • Alun Cairns yw Ysgrifennydd Cymru o hyd.
  • Mae Jeremy Hunt yn parhau’n Ysgrifennydd Iechyd.
  • Mae Gavin Williamson yn cadw ei swydd yn Brif Chwip.
  • Chris Grayling yw’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth o hyd.
  • Priti Patel yn cadw ei swydd yn Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol.
  • Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, James Brokenshire yn cadw ei swydd.
  • Andrea Leadsom yw Arweinydd Tŷ’r Cyffredin – hi aeth ben-ben â Theresa May am arweinyddiaeth y blaid.
  • Michael Gove yw Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig erbyn hyn. Fe gollodd ei swydd flaenorol yn y cabinet, Ysgrifennydd Cyfiawnder ar ôl bradychu Theresa May yn y ras am yr arweinyddiaeth.
  • Karen Bradley yn cadw ei swydd yn Ysgrifennydd Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
  • Mae Brandon Lewis wedi’i benodi’n Weinidog yn y Swyddfa Gartref, i gydweithio ag Amber Rudd.
  • Patrick McLoughlin yw Cadeirydd y Ceidwadwyr o hyd.
  • Mae Jeremy Wright QC yn parhau yn Dwrnai Cyffredinol.
  • Y Farwnes Evans yw Arweinydd Tŷ’r Arglwyddi o hyd.
  • David Mundell yn parhau’n Ysgrifennydd yr Alban.