Khuram Butt a Rachid Redouane (Llun: PA)
Mae 20 o bobol bellach wedi cael eu harestio ers yr ymosodiadau brawychol yn Llundain.
Mae dyn 28 oed o ddwyrain Llundain yn y ddalfa ar amheuaeth o droseddau brawychol yn dilyn cyrch yn Barking y bore ma.
Cafodd wyth o bobol eu lladd a dwsinau eu hanafu mewn cyfres o ddigwyddiadau ger pont Llundain.
Mae’r heddlu hefyd wedi arestio dyn 27 oed yn ardal Ilford mewn perthynas â’r digwyddiadau, ac mae e wedi’i amau o baratoi gweithred frawychol.
Mae 12 o bobol bellach wedi cael eu rhyddhau’n ddi-gyhuddiad, ac un arall wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.
Cefndir
Mae’r awdurdodau bellach wedi cadarnhau rhagor o fanylion am ddulliau cynllunio’r tri oedd wedi cwblhau’r ymosodiadau.
Fe geisiodd Khuram Butt, a gafodd ei eni ym Mhacistan, logi lori 7.5 tunnell oriau cyn yr ymosodiad ar Fehefin 3.
Ond fe ddefnyddion nhw lori B&Q yn y pen draw.
Bu farw Khuram Butt, Rachid Redouane a Youseff Zaghba yn y digwyddiad, ar ôl cael eu saethu gan yr heddlu.
Ymhlith y rhai a gafodd eu lladd gan y brawychwyr oedd tri Ffrancwr, dwy ddynes o Awstralia, dynes o Ganada, dyn o Sbaen a dyn o wledydd Prydain.