Mae dyn arall wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad ar Bont Llundain lle bu farw wyth o bobol.
Gwnaeth swyddogion heddlu Scotland Yard arestio’r unigolyn 29 blwydd oed yn ystod cyrch o adeilad yn Newham, dwyrain Llundain yn ystod oriau mân y bore ddydd Gwener.
Yn sgil yr arestiad diweddaraf, mae pedwar o ddynion yn y ddalfa yn gysylltiedig â’r ymosodiad ddydd Sadwrn.
Ymysg yr wyth bu farw yn ystod yr ymosodiad mae pobol o Ffrainc, Awstralia, Canada, Sbaen a Phrydain.
Mae cyfanswm o 17 wedi cael eu harestio hyd yma, gyda deuddeg wedi eu rhyddhau ac un dyn cafodd ei arestio ddydd Mercher wedi ei rhyddhau dan fechnïaeth.