Heddlu ar Bont Llundain wedi'r ymosodiad.
Mae tri dyn arall wedi eu harestio wrth i’r heddlu barhau i ymchwilio yn sgil yr ymosodiad ar Bont Llundain nos Sadwrn.

Fe gafodd dau ddyn eu harestio gan heddlu arfog yn ystod ymgyrch ar stryd yn Ilford, dwyrain Llundain, yn ôl Scotland Yard.

Cafodd un o’r dynion, 27, ei arestio ar amheuaeth o baratoi ymosodiadau brawychol a chafodd y dyn arall, 33, ei arestio ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau gyda’r bwriad o’u gwerthu.

Yn ystod cyrchoedd nos Fercher cafodd trydydd dyn, 29, ei arestio yn Ilford ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd brawychol.

Mae’r tri dyn bellach yn y ddalfa ac yn cael eu cwestiynu mewn gorsaf heddlu yn ne Llundain, tra bod ditectifs yn parhau i chwilio mewn adeiladau yn Ilford.