Mae rheithgor wrthi’n ystyried dyfarniad i achos dau o gyn-gyflwynwyr radio’r BBC sy’n wynebu troseddau rhyw yn erbyn plant.

Mae erlynwyr yn honni fod Julie Wadsworth, 60 oed, a’i gŵr Tony Wadsworth, 69 oed, wedi annog bechgyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol mewn coedwig ger Atherstone, Swydd Warwig rhwng 1992 ac 1996.

Mae’r cwpwl sydd wedi gweithio i BBC Radio Caerlŷr a Birmingham yn gwadu pum achos yn ymwneud â chwe pherson.

‘Dynion ifanc’

Clywodd Llys y Goron Warwig fod y pâr wedi cael rhyw y tu allan yn erbyn coed o flaen plant mor ifanc ag 11 oed.

Yn ystod y gwrandawiad fe wnaeth Julie Wadsworth gydnabod iddi gael cyfarfodydd rhywiol â “dynion ifanc” ond roedd yn gwadu eu bod nhw’n blant.

Dywedodd ei gŵr ei fod yntau’n bresennol yn y gweithgareddau rhywiol rhwng ei wraig â dynion “nad oedd o dan yr oedran cydsynio.”

Ond dywedodd bargyfreithiwr ar eu rhan eu bod nhw’n ddioddefwyr o honiadau “gwenwynig ac anwir” a wnaed gan un o’u dioddefwyr honedig.