Youssef Zaghba (Llun: Heddlu Metropolitan/PA Wire)
Mae’r Heddlu wedi rhyddhau enw’r trydydd dyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn Llundain nos Sadwrn gan ddweud ei fod yn Eidalwr â chysylltiadau â Moroco.

Fe wnaeth  Scotland Yard gadarnhau fod Youssef Zaghba, 22 oed, o ddwyrain Llundain ddim yn “achos o ddiddordeb” i M15 er bod adroddiadau yn y wasg Eidalaidd yn awgrymu fel arall.

Mae’r wasg Eidalaidd wedi dweud iddo gael ei eni ym Moroco a’i fod wedi cael gwaith tymhorol mewn bwyty yn Llundain.

Roedd adroddiadau pellach fod heddlu’r Eidal wedi’i atal ym maes awyr Bologna ym mis Mawrth 2016 wrth iddo geisio hedfan i Dwrci ac yna i Syria.

Tri brawychwr

Cafodd saith o bobol eu lladd a degau eu hanafu yn yr ymosodiad nos Sadwrn a ddaeth i ben wedi i’r tri ymosodwr gael eu saethu’n farw gan yr heddlu.

Y ddau frawychwr arall oedd  Khuram Shazad Butt, 27, dinesydd o Brydain a gafodd ei eni ym Mhacistan, a Rachid Redouane, o dras Morocaidd a Libiaidd.

Hyd yn hyn mae’r heddlu wedi arestio 13 fel rhan o’u hymchwiliad, gyda deuddeg yn cael eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad. Cafodd dyn 27 oed ei arestio yn Barking yn nwyrain Llundain bore ma.

Cafodd munud o dawelwch ei gynnal am 11yb heddiw er cof am y rhai fu farw ac a gafodd eu hanafu.

Ymhlith y meirw roedd nyrs o Awstralia, Kirsty Boden, James McMullan, 32, o Lundain a Christine Archibald, 30, a oedd yn dod o Ganada.

Bu farw dinesydd o Ffrainc yn yr ymosodiad ac mae dau arall ar goll, meddai gweinidog materion tramor Ffrainc Jean-Yves Le Drian.