Dyw llawer o gleifion iechyd meddwl sy’n hŷn ddim yn cael y driniaeth fwyaf effeithiol, yn ôl arbenigwyr.

Mae astudiaeth newydd yn honni fod cleifion oedrannus ddim yn cael eu cyfeirio’n ddigonol ar gyfer therapïau siarad, er bod tystiolaeth yn awgrymu eu bod nhw’n elwa mwy o’r rheiny na phobol iau.

Mae’r astudiaeth yn codi pryderon am “wahaniaethu ar sail oedran” o ran cyflyrau gan gynnwys gorbyrder neu iselder.

‘Elwa mwy’

Mae’r ymchwil wedi’i arwain gan Dr Sophie Pettit o Brifysgol Gorllewin Llundain gan archwilio 80,000 o gleifion.

Roedd eu hastudiaeth yn dangos fod 23% o bobol 20 – 24 oedd â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu cyfeirio at therapïau siarad.

Ond dim ond 6% o bobol rhwng 70 a 74 oedd yn cael eu cyfeirio at therapïau o’r fath.

“Mae’r canlyniadau’n dangos fod oedolion hŷn â phroblemau iechyd meddwl cyffredin yn cael eu tan-gyfeirio ond yn elwa mwy nag unigolion iau unwaith maen nhw’n cael mynediad at y gwasanaeth,” meddai awduron yr adroddiad.