Khuram Shazad Butt a Rachid Redouane, ymosodwyr Llundain, (Llun: PA)
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enwau dau o’r brawychwyr oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn Llundain nos Sadwrn.

Daeth i’r amlwg bod y gwasanaethau diogelwch yn ymwybodol o ddaliadau eithafol un o’r ymosodwyr.

Khuram Shazad Butt, 27, dinesydd o Brydain a gafodd ei eni ym Mhacistan, a Rachid Redouane, o dras Morocaidd a Libiaidd, oedd wedi cynnal yr ymosodiad yn ardal London Bridge gan ladd saith  o bobl ac anafu dwsinau o rai eraill.

Dywed swyddogion Scotland Yard eu bod nhw’n ceisio adnabod y trydydd ymosodwr, tra bod 12 o bobl a gafodd eu harestio yn nwyrain Llundain yn sgil yr ymosodiad wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.

Cafodd y tri ymosodwr eu saethu’n farw gan yr heddlu yn ystod yr ymosodiad.

Ymchwiliad

Dywedodd prif swyddog gwrth-frawychiaeth Prydain, Mark Rowley bod y gwasanaethau diogelwch yn ymwybodol o Khuram Shazad Butt ond nad oedd tystiolaeth ei fod yn “cynllwynio ymosodiad.”

Bu ymchwiliad i’r tad i ddau yn 2015 ond dywedodd Mark Rowley nad oedd yr ymchwiliad yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth.

Mae’n golygu bod yr awdurdodau yn ymwybodol o’r ymosodwyr fu’n gyfrifol am y tri ymosodiad yng ngwledydd Prydain eleni.

Yng Ngweriniaeth Iwerddon, mae ffynonellau diogelwch wedi cadarnhau bod Rachid Redouane, 30, wedi priodi dynes o Brydain yn Nulyn yn 2012 ac wedi byw yn ardal Rathmines yn y ddinas.

Roedd y ddau ymosodwr yn byw yn Barking yn nwyrain Llundain ond nid yw’n glir ar hyn o bryd sut roedd y ddau yn adnabod ei gilydd.

Munud o dawelwch

Mae 36 o bobl yn parhau i gael triniaeth mewn ysbytai yn Llundain – mae 18 ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Fe fydd munud o dawelwch am 11yb heddiw er cof am y rhai fu farw ac a gafodd eu hanafu.

Mae enwau dau o’r rhai fu farw wedi cael eu cyhoeddi – roedd James McMullan, 32, yn dod o Lundain a Christine Archibald, 30, yn dod o Ganada.

Bu farw dinesydd o Ffrainc yn yr ymosodiad ac mae dau arall ar goll, meddai gweinidog materion tramor Ffrainc Jean-Yves Le Drian.

Dywed Scotland Yard bod un person yn dal ar goll a bod y teulu yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Cafodd gwylnos ei chynnal nos Lun ger safle’r ymosodiad gyda munud o dawelwch.