Arena Manceinion lle digwyddodd y ffrwydrad Llun: Peter Byrne/PA Wire
Mae angladd cyntaf un o’r rhai gafodd eu lladd yn yr ymosodiad ym Manceinion yn cael ei gynnal heddiw, sef merch 14 oed o Ynys Barra yn yr Alban.

Roedd Eilidh MacLeod ymysg y 22 gafodd eu lladd mewn ffrwydrad yng nghyngerdd Ariana Grande nos Sul, Mai 22 yn Arena Manceinion.

Cafodd ei ffrind, Laura MacIntyre, ei hanafu’n ddifrifol ac mae’n parhau yn yr ysbyty.

Dywedodd rhieni Eilidh MacLeod, Roddy a Marion – “heddiw wrth inni fynd ag Eilidh ar ei thaith olaf, ein gobaith yw y bydd ei hangladd yn ddathliad go iawn o’i bywyd a’r person arbennig oedd hi.”

“Byddwn ni wastad yn cofio amdani fel merch hynod brydferth ar y tu mewn a’r tu allan, yn fythol ifanc, wedi’i charu gan bawb ac yn ein calonnau am byth.”

‘Dynes ifanc fywiog, llawn cariad’

Mae disgwyl tua 1,000 o bobol – tua’r un maint â phoblogaeth yr ynys – i fynd i’r eglwys ym mhentref Castlebay heddiw wrth i fusnesau gau fel arwydd o barch i’r teulu.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon – “mae popeth dw i wedi’i glywed, weld neu ddarllen am Eilidh yn dangos ei bod yn ddynes ifanc fywiog, llawn cariad gyda dyfodol disglair o’i blaen, ac rwy’n gwybod y bydd cymuned Barra yn talu teyrnged driw iddi. Mae fy meddyliau gyda’r teulu,” meddai.