Theresa May
Mae pwysau ar Theresa May i amlinellu ei pholisi ynglŷn â sut y mae’n bwriadu cwtogi’r nifer sy’n mewnfudo i wledydd Prydain i’r degau o filoedd y flwyddyn.

Tra’n siarad â gohebwyr ar y daith ymgyrchu o gwmpas Swydd Efrog ddoe, dywedodd Theresa May ei bod am weld y nifer sy’n mewnfudo yn flynyddol yn is na 100,000 erbyn diwedd y Senedd nesaf yn 2022.

Er hynny, yn ddiweddarach yn y nos, dywedodd yr Ysgrifennydd dros Brexit, David David, ar raglen y BBC, Question Time, mae “dyhead” yn unig yw’r targed mewnfudo, gan ychwanegu: “Allwn ni ddim addo hynny o fewn pum mlynedd.”

Un sy’n beirniadu’r Ceidwadwyr ar y mater yw’r Arglwydd Paddick, llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol ar faterion cartref.

“All Theresa May a David Davis ddim fod yn gywir – pa un sy’n dweud y gwir?

“Mae hwn yn bolisi chwerthinllyd sy’n mynd i achosi niwed aruthrol i’r economi a dinistrio gwasanaethau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd sy’n ddibynnol ar fewnfudwyr.”

Mae maniffesto’r Ceidwadwyr yn nodi mai “amcan” y blaid yw lleihau ffigyrau mewnfudo i lai na 100,000 y flwyddyn.