Blychau pleidleisio (Golwg360)
Fe fydd un o bob pump o bleidleiswyr yn pleidleisio’n dactegol yn yr Etholiad Cyffredinol yr wythnos nesaf, yn ôl ymchwil.
O ganlyniad mae’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadau yn galw am newid yn y drefn i system gyfrannol – PR – er mwyn osgoi “loteri” o ganlyniadau.
Y ffigurau
Mae’r holiadur a wnaed ymhlith 2,016 o bobol yn dweud …
- Bod traean o’r bobol a bleidleisiodd dros UKIP yn 2015 yn mynd i bleidleisio’n dactegol y tro yma,
- Mai dim ond 6% o’r rhai a gefnogodd yr SNP yn 2015 sy’n mynd i ddal eu trwynau a phleidleisio er mwyn atal ymgeiswyr eraill.
- Bod 9% o’r rheiny a gofrestrodd yn yr wythnosau cyn yr etholiad diwetha’, wedi pleidleisio i’r ymgeisydd “llai drwg”.
‘Rhyfeddol’
Yn ôl Darren Hughes, dirprwy rheolwr y gymdeithas sy’n hyrwyddo diwygio etholiadol, mae’r ffigyrau hyn yn “rhyfeddol”, gyda un o bob pump yn teimlo na allan nhw bleidleisio i’w dewis cyntaf o blaid yn yr etholiad hwn.
“Mae’r holl sefyllfa yn gwneud etholiadau yn gambl wrth rannu’r bleidlais a cheisio dyfalu pwy ar y chwith neu’r dde sydd fwyaf tebygol o ennill.”
“Dyw hi ddim yn etholiad democrataidd – mae’n loteri o etholiad.”
System gwahanol
Fe alwodd Darren Hughes am gyflwyno system gyfrannol i etholiadau San Steffan, fel sy’n cael ei ddefnyddio yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
“Yn hytrach na gwastraffu pleidlais pobol oherwydd nad ydyn nhw wedi bod yn ddigon tactegol, mae’n bryd cael system lle mae pob pleidlais yn cyfri,” meddai.