Mae bron i 50% o weithwyr y sector gyhoeddus wedi bod i ffwrdd o’u gwaith oherwydd problemau iechyd meddwl, yn ôl arolwg newydd.

Yn ôl yr elusen iechyd meddwl Mind, mae eu hymchwil yn dangos fod problemau iechyd meddwl yn waeth ymysg gweithwyr y sector gyhoeddus a hefyd bod yna ddiffyg cymorth.

Fe gafodd dros 12,000 o weithwyr eu holi ledled gwledydd Prydain, a dywedodd 48% o weithwyr y sector gyhoeddus eu bod wedi colli gwaith oherwydd problemau iechyd meddwl, o gymharu â 32% yn y sector breifat.

“Diwylliant o ofn a distawrwydd”

Mae angen mwy o drafod ar broblemau iechyd meddwl, yn ôl Prif Weithredwr Mind.

“Rhan allweddol o newid bywydau pobol â phroblemau iechyd meddwl yw mynd i’r afael â’r diwylliant o ofn â distawrwydd yn y gweithle,” meddai Paul Farmer.

“Trwy gefnogi staff sydd yn wynebu problemau iechyd meddwl gall sefydliadau helpu pobol yn y gweithle a chreu gweithleoedd iachus lle gall bobol berfformio ar eu gorau.”