Mae dyn 30 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i gorff dynes a dau o blant gael eu canfod mewn fflat ar Lannau Merswy.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i fflat llawr daear yn Stryd Falkner, Toxteth, tua 7.30yh nos Fawrth, wedi i gymdogion fynegi pryder am y bobol oedd yn byw yno.

Mae Heddlu Glannau Merswy yn dweud mai mater “domestig” sydd fwyaf tebygol wrth wraidd yr achos, ac maen nhw wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n chwilio am neb arall.

Mae’r dyn sydd wedi’i arestio wedi’i gludo i’r ysbyty, gan iddo gael ei daro’n wael tra yng ngofal yr heddlu. Fe fydd profion post mortem ar gyrff y meirwon ddydd Mercher.

Fe gafodd rhai o drigolion Stryd Falkner eu symud o’u tai yn gynharach nos Fawrth, a hynny oherwydd ofnau bod tanwydd yn gollwng.

Fe gafodd y stryd ei chau am gyfnod, ac fe rybuddiwyd trigolion strydoedd cyfagos i aros yn eu tai a chadw eu ffenestri ar gau.