Y gantores Ariana Grande, (Llun: O'i chyfrif Twitter)
Fe fydd llu o sêr y byd pop yn ymuno â’r gantores Ariana Grande ddydd Sul ar gyfer cyngerdd er cof am y rhai gafodd eu lladd neu eu hanafu yn yr ymosodiad brawychol ym Manceinion.

Mae Justin Bieber, Katy Perry, Coldplay, Take That, Usher, Pharrell Williams, a Miley Cyrus ymhlith y sêr a fydd yn perfformio yn y gyngerdd One Love Manchester yng Nghlwb Criced  Old Trafford yn y ddinas.

Fe fydd ffans Ariana Grande, a oedd yn y gyngerdd wreiddiol wythnos diwethaf pan gafodd 22 o bobol eu lladd a dwsinau eu hanafu, yn cael tocynnau am ddim i’r digwyddiad.

Mewn datganiad yn dilyn yr ymosodiad wythnos ddiwethaf fe wnaeth Ariana Grande addewid i ddychwelyd i Fanceinion gan ddweud “wnawn ni ddim gadael i gasineb ennill”.

Cronfa

Fe fydd holl elw’r sioe yn mynd at gronfa We Love Manchester a gafodd ei sefydlu gan Gyngor Dinas Manceinion mewn partneriaeth â’r Groes Goch er mwyn cefnogi teuluoedd y rhai fu farw a’r rhai gafodd eu hanafu.

Mae’r gronfa bellach wedi casglu £6m.

Fe fydd tocynnau ar gyfer y gyngerdd yn mynd ar werth ddydd Iau am 10yb. Bydd y giatiau yn agor am 6yh nos Sul, Mehefin 4 a bydd y gyngerdd yn cael ei darlledu’n fyw gan y BBC ac ar y radio, yn ogystal â Capital radio.