Teigr
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw gofalwr sw yng Nghaergrawnt wnaeth farw ar ôl i deigr fynd i mewn i safle caeedig lle’r oedd hi’n gweithio.

Bu farw Rosa King, 33, ym Mharc Sw Hamerton yn Huntington ddydd Llun yn dilyn yr hyn gafodd ei ddisgrifio fel “damwain hynod anghyffredin” gan y perchnogion.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw fore ddydd Llun yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad difrifol a bu’n rhaid i ymwelwyr adael y sw.

Yn ôl Heddlu Sir Caergrawnt nid yw’r teigr wedi’i niweidio ac mae perchnogion y parc wedi cyhoeddi y bydd y sw ar gau ddydd Mawrth wrth i’r ymchwiliad barhau.

“Golau disglair”

Mae ffotograffydd bywyd gwyllt oedd yn adnabod Rosa King wedi ei disgrifio fel “golau disglair” a “dynes hyfryd”.

“Roedd ei hangerdd tuag at yr anifeiliaid dan ei gofal yn eithriadol,” meddai’r ffotograffydd, Garry Chisholm. “Roedd cael nabod Rosa yn fraint. Fydda’i ynghyd â phawb yn gweld ei heisiau hi yn fawr.”