Theresa May a Jeremy Corbyn (Lluniau: PA)
Cafodd Theresa May a Jeremy Corbyn eu gorfodi i amddiffyn eu cynlluniau wrth gael eu holi ar raglen etholiad byw gan y cyflwynydd Jeremy Paxman a’r gynulleidfa neithiwr.

Daeth y Prif Weinidog o dan y lach am doriadau  wasanaethau cyhoeddus a’i chynlluniau ar gyfer gofal cymdeithasol, tra bod Jeremy Corbyn wedi wynebu cwestiynau am ei agwedd tuag at faterion diogelwch a sylwadau a wnaeth yn y gorffennol am yr IRA a Rhyfel y Falklands.

Wedi’r rhaglen, roedd y ddwy blaid yn honni eu bod wedi ennill y ddadl, gyda Llafur yn dweud bod Theresa May wedi “gwegian” wrth ateb cwestiynau am wasanaethau cyhoeddus, a’r Torïaid yn dweud bod sylwadau Jeremy Corbyn am faterion diogelwch yn “hynod bryderus.”

Wrth iddo gael ei holi ar raglen “Battle for Number 10” gan Sky News/Channel 4, fe wrthododd arweinydd y Blaid Lafur  i ateb cwestiwn yn gofyn a fyddai’n awdurdodi ymosodiad gan awyrennau di-beilot yn erbyn brawychwyr dramor a oedd yn cynllwynio ymosodiad ar y Deyrnas Unedig.

“Mae’n rhaid edrych ar y dystiolaeth sydd yno ar y pryd cyn gwneud y penderfyniad angheuol yna, un ffordd neu’r llall,” meddai.

Mae Jeremy Corbyn wedi mynegi ei wrthwynebiad i arfau niwclear droeon dros y blynyddoedd gan ei gwneud yn glir na fyddai’n awdurdodi eu defnyddio ond fe awgrymodd y byddai’n gwneud hynny petai’n dod yn brif weinidog.

Wrth gael ei holi gan aelodau o’r gynulleidfa, cafodd Theresa May ei chyhuddo gan swyddog yr heddlu o wneud toriadau “dinistriol”, gyda bydwraig yn gofyn iddi gyfiawnhau tan-gyllido’r Gwasanaeth Iechyd, ac un arall yn holi am gyllidebau addysg.

Fe fynnodd y Prif Weinidog ei bod yn benderfynol o fynd i’r afael a materion anodd a gwneud y peth iawn dros y wlad.

Fe gadarnhaodd hefyd y byddai’n gadael y trafodaethau Brexit heb gytundeb yn hytrach na derbyn cytundeb “gwael.”

Cymru

Fe fydd y cyflwynydd Huw Edwards yn holi arweinwyr y pleidiau yng Nghymru heno (nos Fawrth, 30 Mai) ar raglen etholiad a BBC.