Jeremy Corbyn (Llun: PA)
Mae arweinydd y blaid Lafur wedi mynnu na fydd yn taro bargen gyda’r SNP yn yr Alban er mwyn ennill grym yn San Steffan wedi etholiad Mehefin 8.

Er bod Nicola Sturgeon, arweinydd plaid genedlaethol yr Alban, wedi dweud y byddai’n fodlon cydweithio er mwyn cadw’r Torïaid allan, mae Jeremy Corbyn wedi dweud, eto, na fyddai’n ystyried hynny.

“Fydd yna ddim bareginio,” meddai Jeremy Corbyn. “Fydd yna ddim cydweithio. Rydan ni’n ymladd yr etholiad yma gyda’r bwriad o’i ennill.

“Dim ond Llafur neu’r Ceidwadwyr all ennill yr etholiad yma,” meddai wedyn, “a dim ond trwy bleidleisio Llafur y cewch chi wared â Theresa May o’i swydd ac adeiladu Alban sy’n meddwl am bawb, nid y breintiedig rai.”

Yn etholiad cyffredinol 2015, fe enillodd yr SNP 56 o 59 sedd seneddol yr Alban, a does gan Lafur ddim ond un Aelod Seneddol yno.