Mae corff dyn wedi’i ganfod yn y môr oddi ar arfordir Caint.

Fe gafodd Heddlu Caint eu galw tua 10.12yb heddiw i ardal Pier Deal, ac fe fu plismyn, gwylwyr y glannau a gwasanaeth ambiwlans arfordir de-ddwyrain Lloegr yn cydweithio ar yr achos.

Dydi’r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus, ond mae’r heddlu’n sefydlu pwy ydi’r dyn.