Mae dau ddyn sydd wedi’u harestio am yrru yn syth i mewn i gerddwyr mewn tref yn ne Sbaen, yn ddinasyddion Prydeinig. A’r gred ydi eu bod nhw’n feddw ar y pryd.

Fe gafodd wyth o bobol, yn cynnwys babi newydd anedig a gyrrwr y car, eu hanafu yn y digwyddiad yn Marbella ddydd Sul.

Mae heddlu lleol wedi dweud nad ydyn nhw’n ystyried unrhyw fwriad brawychol.

Dau ddyn 27 a 28 oed o wledydd Prydain oedd y gyrrwr a’r teithiwr yn y cerbyd, meddai’r heddlu wedyn, ac maen nhw’n ddeiliaid pasbort Prydeinig.

Mae’r awdurdodau’n dweud i’r car rhuthro i mewn i ganol tref Marbella, gan daro cerddwyr ar stryd brysur, cyn mynd ar ei ben i gerbydau eraill a chreu gwrthdrawiad rhwng nifer o geir.

Mae gyrrwr y car wedi’i anafu’n ddifrifol.