Mae swyddogion arfog yr heddlu ar batrôl ar drenau ledled gwledydd Prydain am y tro cyntaf erioed.

Cyhoeddodd yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig y mesur fel ffordd o geisio “tarfu ar weithgarwch troseddol a’i rwystro” ar ôl i’r lefel bygythiad godi i’r lefel uchaf bosib yn dilyn yr ymosodiad ym Manceinion.

Mae swyddogion arfog wedi bod ar batrôl ar Underground Llundain ers mis Rhagfyr, ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw deithio ar drenau y tu allan i’r ddinas.

Ond mae’r heddlu wedi dweud na ddylai teithwyr gael braw o’u gweld, gan ddweud bod y cam yn golygu eu bod yn ceisio sicrhau bod pobol yn cadw mor ddiogel â phosib.

Galw am godi pryderon

“Bydd ein patrolau yn weladwy iawn a dylai teithwyr deimlo cysur gan eu presenoldeb. Siaradwch â nhw os bydd gennych unrhyw bryderon o gwbl,” meddai Prif Gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, Paul Crowther.

“Mae’n bwysig nodi nad oes gennym unrhyw wybodaeth benodol mewn cysylltiad â gwasanaethau trenau ond rydym yn cymryd y cam hwn i ddiogelu a thawelu meddyliau’r cyhoedd.

“Dw i am gymryd y cyfle hwn i atgoffa pawb i beidio aflonyddu, bod yn wyliadwrus, ac os byddwch yn gweld unrhyw beth o gwbl sy’n codi pryder i chi, rhowch wybod i ni.

“Yn dilyn y digwyddiadau ofnadwy dros y dyddiau diwethaf, a’r cynnydd yn y lefel bygythiad, ni ddylai unrhyw beth gael ei ystyried yn rhy bitw i’w godi a gall unrhyw wybodaeth – p’un a ydych yn meddwl ei fod yn bwysig neu beidio – fod yn bwysig i ni gyd.”