Mae dau ddyn wedi’u harestio wedi iddyn nhw fod yn “ymddwyn yn amheus” y tu allan i farics yn ne-ddwyrain Lloegr.

Fe gafodd plismyn Dyffryn Tafwys eu hanfon i Victoria Barracks yn Windsor am 9yh nos Fercher, lle’r oedd dau ddyn wedi’u dal.

Yn ol llefarydd ar ran y llu, chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad, a dydyn nhw ddim yn credu fod yna risg pellach i’r cyhoedd.

Mae’r ddau ddyn, sy’n eu 30au, yn dal i fod yn y ddalfa.