Mae dau ddyn wedi cael eu harestio gan heddlu gwrth-frawychiaeth ym Manceinion mewn cysylltiad â’r ymosodiad dydd Llun.

Mae bellach wyth dyn yn y ddalfa yn y Deyrnas Unedig yn sgil y gyflafan.

Cafodd un o’r dynion eu cadw yn dilyn cyrchoedd mewn eiddo yn ardal Withington o’r ddinas, tra bod un arall wedi ei arestio mewn rhan anhysbys o Fanceinion.

Cafodd dynes ei harestio yn ardal Blackley o’r ddinas ddydd Mercher ond mae bellach wedi’i rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.

Cadw perthnasau’r bomiwr

Ddydd Mercher, fe fu’r heddlu’n cynnal cyfres o gyrchoedd ledled Manceinion, Wigan a Nuneaton yn Swydd Warwig, tra bod perthnasau’r bomiwr, Salman Abedi, wedi’u cadw gan awdurdodau yn Libya.

Cafodd ei dad, Ramadan Abedi, ei arestio yn Tripoli gyda’i frawd, Hashim, oedd yn “ymwybodol o fanylion” yr ymosodiad, yn ôl awdurdodau Libya.

Cafodd dyn 23 oed, sy’n frawd hŷn i Salman Abedi yn ôl adroddiadau, ei gadw gan yr heddlu ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Theresa May godi pryderon â Donald Trump dros y ffordd wnaeth y wasg Americanaidd adrodd y stori ar ôl i’r New York Times gyhoeddi lluniau oedd yn dangos darniau o’r bom a’r bag oedd yn cael ei ddefnyddio i’w gadw.