Palas Buckingham (Llun: David Iliff CC-BY-SA 3.0)
Mae dyn gyda chyllell yn ei feddiant wedi’i arestio yng nghyffiniau Palas Buckingham yn Llundain.

Mae llygad-dystion yn dweud fod plismyn wedi amgylchynu’r dyn tua 10.40yb ddydd Mercher, cyn i gyffion gael eu gosod am ei ddwylo.

Fe gyrhaeddodd fan yr heddlu toc, gyda’i golau’n fflachio, i’w gludo ymaith.

Mae llefarydd ar ran Heddlu’r Met yn dweud nad oes cysylltiad o gwbwl rhwng y digwyddiad ag unrhyw weithgaredd frawychol.