Mae gyrrwr lori a fu mewn gwrthdrawiad ar draffordd yr M6, lle cafodd pump o bobol eu lladd, wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Mae Heddlu Swydd Stafford wedi cadarnhau fod dyn 60 oed o’r West Midlands yn cael eu holi gan yr heddlu.

Fe ddigwyddodd y ddamwain angheuol ar ddarn o’r briffordd rhwng Stoke-on-Trent a Stafford tua 4.30yb ddydd Mercher, Mai 24.

Mae’r heddlu hefyd wedi cadarnhau fod pedair dynes ac un dyn oedd yn teithio mewn cerbyd Nissan Micra wedi’u lladd, tra bod dyn arall wedi’i gludo i’r ysbyty yn dioddef o nifer o anafiadau difrifol.

Mae’r dyn hwnnw’n parhau mewn cyflwr difrifol.