Mae tri o ddynion wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad brawychol ym Manceinion nos Lun.

Mae’r tri wedi’u dwyn i’r ddalfa wedi i warantau gael eu cyhoeddi yn ardal de Manceinion.

Mae cyfanswm o bedwar dyn bellach yn cael eu holi gan yr heddlu, fel rhan o’r ymchwiliad i’r ffrwydrad a laddodd 22 o bobol ar ddiwedd cyngerdd pop Ariana Grande.

Fe gafodd dwsinau o bobol eu hanafu wedi i’r hunanfomiwr, Salman Abedi, 22, ffrwydro dyfais yn Arena Manceinion, y drws nesaf i brif orsaf drenau’r ddinas, toc wedi 10.30yh ar Fai 22.