Nicola Sturgeon
All Albanwyr ddim gadael i frawychiaeth ennill y dydd, yn ôl Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon, sydd wedi annog ei phobol i fynd o gwmpas eu pethau yn ôl eu harfer.

Yn dilyn y cyhoeddiad bod lefel bygythiad Prydain wedi’i chodi i’r lefel uchaf bosib, fe fu Nicola Sturgeon wrthi y bore ma’n cadeirio cyfarfod o Bwyllgor Gwytnwch yr Alban.

Yn ystod y cyfarfod, cafodd gweinidogion yr Alban glywed pa effaith y gallai’r ymosodiad ym Manceinion ei chael ar y wlad.

Mae pleidiau gwleidyddol gwledydd Prydain wedi rhoi’r gorau i ymgyrchu ar gyfer yr etholiad cyffredinol am y tro.

Mae merch 14 oed o’r Alban, Eilidh MacLeod ar goll o hyd ac mae ei ffrind Laura Mcintyre, 15, yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty am anafiadau difrifol.

‘Ymateb angenrheidiol’

Yn ôl Nicola Sturgeon, roedd codi lefel diogelwch gwledydd Prydain i ‘argyfyngus’ yn “ymateb angenrheidiol”.

Ond “allwn ni ddim gadael i frawychiaeth ennill y dydd”, meddai.

“Rwy’n annog pobol yr Alban i fod yn wyliadwrus ond nid yn bryderus a chyhyd â phosibl i fynd o gwmpas eu pethau yn ôl eu harfer.”

Eglurodd fod mwy o blismyn nag arfer ar y strydoedd mewn trefi a dinasoedd fel “rhagofal”, a bod trefniadau diogelwch ar gyfer digwyddiadau mawr yn cael eu hadolygu.

“Bydd unrhyw un oedd ym Manceinion ac a oedd yn dyst i’r ymosodiad brawychol neu’r sgil-effeithiau’n fuan wedyn yn ddiau yn teimlo dan straen neu wedi’u hypsetio.”